15. Myfi a borthaf fy mhraidd, a myfi a'u gorweddfâf hwynt, medd yr Arglwydd Dduw.
16. Y golledig a geisiaf, a'r darfedig a ddychwelaf, a'r friwedig a rwymaf, a'r lesg a gryfhaf: eithr dinistriaf y fras a'r gref; â barn y porthaf hwynt.
17. Chwithau, fy mhraidd, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Wele fi yn barnu rhwng milyn a milyn, rhwng yr hyrddod a'r bychod.
18. Ai bychan gennych bori ohonoch y borfa dda, oni bydd i chwi sathru dan eich traed y rhan arall o'ch porfeydd? ac yfed ohonoch y dyfroedd dyfnion, oni bydd i chwi sathru y rhan arall â'ch traed?
19. A'm praidd i, y maent yn pori sathrfa eich traed chwi; a mathrfa eich traed a yfant.
20. Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw wrthynt hwy; Wele myfi, ie, myfi a farnaf rhwng milyn bras a milyn cul.
21. Oherwydd gwthio ohonoch ag ystlys ac ag ysgwydd, a chornio ohonoch â'ch cyrn y rhai llesg oll, hyd oni wasgarasoch hwynt allan:
22. Am hynny y gwaredaf fy mhraidd, fel na byddont mwy yn ysbail; a barnaf rhwng milyn a milyn.
23. Cyfodaf hefyd un bugail arnynt, ac efe a'u portha hwynt, sef fy ngwas Dafydd; efe a'u portha hwynt, ac efe a fydd yn fugail iddynt.
24. A minnau yr Arglwydd a fyddaf yn Dduw iddynt, a'm gwas Dafydd yn dywysog yn eu mysg: myfi yr Arglwydd a leferais hyn.
25. Gwnaf hefyd â hwynt gyfamod heddwch, a gwnaf i'r bwystfil drwg beidio o'r tir: a hwy a drigant yn ddiogel yn yr anialwch, ac a gysgant yn y coedydd.