22. A llaw yr Arglwydd a fuasai arnaf yn yr hwyr, cyn dyfod y dihangydd, ac a agorasai fy safn, nes ei ddyfod ataf y bore; ie, ymagorodd fy safn, ac ni bûm fud mwyach.
23. Yna y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd,
24. Ha fab dyn, preswylwyr y diffeithwch hyn yn nhir Israel ydynt yn llefaru, gan ddywedyd, Abraham oedd un, ac a feddiannodd y tir; ninnau ydym lawer, i ni y rhoddwyd y tir yn etifeddiaeth.
25. Am hynny dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Yr ydych yn bwyta ynghyd â'r gwaed, ac yn dyrchafu eich llygaid at eich gau dduwiau, ac yn tywallt gwaed; ac a feddiennwch chwi y tir?
26. Sefyll yr ydych ar eich cleddyf, gwnaethoch ffieidd‐dra, halogasoch hefyd bob un wraig ei gymydog; ac a feddiennwch chwi y tir?
27. Fel hyn y dywedi wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Fel mai byw fi, trwy y cleddyf y syrth y rhai sydd yn y diffeithwch; a'r hwn sydd ar wyneb y maes, i'r bwystfil y rhoddaf ef i'w fwyta; a'r rhai sydd yn yr amddiffynfeydd ac mewn ogofeydd, a fyddant feirw o'r haint.
28. Canys gwnaf y tir yn anrhaith, ie, yn anrhaith; a balchder ei nerth ef a baid, ac anrheithir mynyddoedd Israel, heb gyniweirydd ynddynt.