21. Llefared cryfion y cedyrn wrthi hi o ganol uffern gyda'i chynorthwywyr: disgynasant, gorweddant yn ddienwaededig, wedi eu lladd รข'r cleddyf.
22. Yno y mae Assur a'i holl gynulleidfa, a'i feddau o amgylch; wedi eu lladd oll, a syrthio trwy y cleddyf.
23. Yr hon y rhoddwyd eu beddau yn ystlysau y pwll, a'i chynulleidfa ydoedd o amgylch ei bedd; wedi eu lladd oll, a syrthio trwy y cleddyf, y rhai a barasant arswyd yn nhir y rhai byw.
24. Yno y mae Elam a'i holl liaws o amgylch ei bedd, wedi eu lladd oll, a syrthio trwy y cleddyf, y rhai a ddisgynasant yn ddienwaededig i'r tir isaf, y rhai a barasant eu harswyd yn nhir y rhai byw; eto hwy a ddygasant eu gwaradwydd gyda'r rhai a ddisgynnant i'r pwll.