12. A chleddyfau y rhai cedyrn y cwympaf dy liaws, byddant oll yn gedyrn y cenhedloedd; a hwy a anrheithiant falchder yr Aifft, a'i holl liaws hi a ddinistrir.
13. Difethaf hefyd ei holl anifeiliaid hi oddi wrth ddyfroedd lawer; ac ni sathr troed dyn hwynt mwy, ac ni fathra carnau anifeiliaid hwynt.
14. Yna y gwnaf yn ddyfnion eu dyfroedd hwynt, a gwnaf i'w hafonydd gerdded fel olew, medd yr Arglwydd Dduw.
15. Pan roddwyf dir yr Aifft yn anrhaith, ac anrheithio y wlad o'i llawnder, pan drawyf y rhai oll a breswyliant ynddi, yna y cânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd.
16. Dyma y galar a alarant amdani hi: merched y cenhedloedd a alarant amdani hi; galarant amdani hi, sef am yr Aifft, ac am ei lliaws oll, medd yr Arglwydd Dduw.
17. Ac yn y ddeuddegfed flwyddyn, ar y pymthegfed dydd o'r mis, y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd,
18. Cwyna, fab dyn, am liaws yr Aifft, a disgyn hi, hi a merched y cenhedloedd enwog, i'r tir isaf, gyda'r rhai a ddisgynnant i'r pwll.
19. Tecach na phwy oeddit? disgyn a gorwedd gyda'r rhai dienwaededig.
20. Syrthiant yng nghanol y rhai a laddwyd â'r cleddyf: i'r cleddyf y rhoddwyd hi; llusgwch hi a'i lliaws oll.
21. Llefared cryfion y cedyrn wrthi hi o ganol uffern gyda'i chynorthwywyr: disgynasant, gorweddant yn ddienwaededig, wedi eu lladd â'r cleddyf.
22. Yno y mae Assur a'i holl gynulleidfa, a'i feddau o amgylch; wedi eu lladd oll, a syrthio trwy y cleddyf.
23. Yr hon y rhoddwyd eu beddau yn ystlysau y pwll, a'i chynulleidfa ydoedd o amgylch ei bedd; wedi eu lladd oll, a syrthio trwy y cleddyf, y rhai a barasant arswyd yn nhir y rhai byw.