Eseciel 32:1-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac yn y deuddegfed mis o'r ddeuddegfed flwyddyn, ar y dydd cyntaf o'r mis, y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd,

2. Ha fab dyn, cyfod alarnad am Pharo brenin yr Aifft, a dywed wrtho, Tebygaist i lew ieuanc y cenhedloedd, ac yr ydwyt ti fel morfil yn y moroedd: a daethost allan gyda'th afonydd; cythryblaist hefyd y dyfroedd â'th draed, a methraist eu hafonydd hwynt.

3. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Minnau a daenaf fy rhwyd arnat â chynulleidfa pobloedd lawer; a hwy a'th godant yn fy rhwyd i.

4. Gadawaf di hefyd ar y tir, taflaf di ar wyneb y maes, a gwnaf i holl ehediaid y nefoedd drigo arnat ti; ie, ohonot ti y diwallaf fwystfilod yr holl ddaear.

5. Rhoddaf hefyd dy gig ar y mynyddoedd, a llanwaf y dyffrynnoedd â'th uchder di.

6. Mwydaf hefyd â'th waed y tir yr wyt yn nofio ynddo, hyd y mynyddoedd; a llenwir yr afonydd ohonot.

7. Ie, cuddiaf y nefoedd wrth dy ddiffoddi, a thywyllaf eu sêr hwynt: yr haul a guddiaf â chwmwl, a'r lleuad ni wna i'w goleuni oleuo.

8. Tywyllaf arnat holl lewyrch goleuadau y nefoedd, a rhoddaf dywyllwch ar dy dir, medd yr Arglwydd Dduw.

9. A digiaf galon pobloedd lawer, pan ddygwyf dy ddinistr ymysg y cenhedloedd i diroedd nid adnabuost.

10. A gwnaf i bobloedd lawer ryfeddu wrthyt, a'u brenhinoedd a ofnant yn fawr o'th blegid, pan wnelwyf i'm cleddyf ddisgleirio o flaen eu hwynebau hwynt; a hwy ar bob munud a ddychrynant, bob un am ei einioes, yn nydd dy gwymp.

11. Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Cleddyf brenin Babilon a ddaw arnat ti.

Eseciel 32