6. Holl ehediaid y nefoedd a nythent yn ei cheinciau hi, a holl fwystfilod y maes a lydnent dan ei changhennau hi; ie, yr holl genhedloedd lluosog a eisteddent dan ei chysgod hi.
7. Felly teg ydoedd hi yn ei mawredd, yn hyd ei brig; oherwydd ei gwraidd ydoedd wrth ddyfroedd lawer.
8. Y cedrwydd yng ngardd Duw ni allent ei chuddio hi: y ffynidwydd nid oeddynt debyg i'w cheinciau hi, a'r ffawydd nid oeddynt fel ei changhennau hi; ac un pren yng ngardd yr Arglwydd nid ydoedd debyg iddi hi yn ei thegwch.
9. Gwnaethwn hi yn deg gan liaws ei changhennau: a holl goed Eden, y rhai oedd yng ngardd Duw, a genfigenasant wrthi hi.
10. Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Oherwydd ymddyrchafu ohonot mewn uchder, a rhoddi ohoni ei brig ymysg y tewfrig, ac ymddyrchafu ei chalon yn ei huchder;
11. Am hynny y rhoddais hi yn llaw cadarn y cenhedloedd: gan wneuthur y gwna efe iddi; am ei drygioni y bwriais hi allan.
12. A dieithriaid, rhai ofnadwy y cenhedloedd, a'i torasant hi ymaith, ac a'i gadawsant hi: ar y mynyddoedd ac yn yr holl ddyffrynnoedd y syrthiodd ei brig hi, a'i changhennau a dorrwyd yn holl afonydd y ddaear; a holl bobloedd y tir a ddisgynasant o'i chysgod hi, ac a'i gadawsant hi.