1. Ac yn y trydydd mis o'r unfed flwyddyn ar ddeg, ar y dydd cyntaf o'r mis, y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd,
2. Dywed, fab dyn, wrth Pharo brenin yr Aifft, ac wrth ei liaws, I bwy yr ydwyt debyg yn dy fawredd?
3. Wele, Assur oedd gedrwydden yn Libanus, yn deg ei cheinciau, a'i brig yn cysgodi, ac yn uchel ei huchder, a'i brigyn oedd rhwng y tewfrig.
4. Dyfroedd a'i maethasai hi, y dyfnder a'i dyrchafasai, รข'i hafonydd yn cerdded o amgylch ei phlanfa; bwriodd hefyd ei ffrydiau at holl goed y maes.
5. Am hynny yr ymddyrchafodd ei huchder hi goruwch holl goed y maes, a'i cheinciau a amlhasant, a'i changhennau a ymestynasant, oherwydd dyfroedd lawer, pan fwriodd hi allan.
6. Holl ehediaid y nefoedd a nythent yn ei cheinciau hi, a holl fwystfilod y maes a lydnent dan ei changhennau hi; ie, yr holl genhedloedd lluosog a eisteddent dan ei chysgod hi.
7. Felly teg ydoedd hi yn ei mawredd, yn hyd ei brig; oherwydd ei gwraidd ydoedd wrth ddyfroedd lawer.