Eseciel 30:14-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. Pathros hefyd a anrheithiaf, a rhoddaf dân yn Soan, a gwnaf farnedigaethau yn No.

15. A thywalltaf fy llid ar Sin, cryfder yr Aifft; ac a dorraf ymaith liaws No.

16. A mi a roddaf dân yn yr Aifft; gan ofidio y gofidia Sin, a No a rwygir, a bydd ar Noff gyfyngderau beunydd.

17. Gwŷr ieuainc Afen a Phibeseth a syrthiant gan y cleddyf; ac i gaethiwed yr ânt hwy.

18. Ac ar Tehaffnehes y tywylla y diwrnod, pan dorrwyf yno ieuau yr Aifft: a balchder ei chryfder a dderfydd ynddi: cwmwl a'i cuddia hi, a'i merched a ânt i gaethiwed.

19. Felly y gwnaf farnedigaethau yn yr Aifft; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd.

20. Ac yn y mis cyntaf o'r unfed flwyddyn ar ddeg, ar y seithfed dydd o'r mis, y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd,

21. Ha fab dyn, torrais fraich Pharo brenin yr Aifft; ac wele, nis rhwymir i roddi meddyginiaethau wrtho, i osod rhwymyn i rwymo, i'w gryfhau i ddal y cleddyf.

22. Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi yn erbyn Pharo brenin yr Aifft, a mi a dorraf ei freichiau ef, y cryf, a'r hwn oedd ddrylliedig; ac a wnaf i'r cleddyf syrthio o'i law ef.

Eseciel 30