Eseciel 3:8-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. Wele, gwneuthum dy wyneb yn gryf yn erbyn eu hwynebau hwynt, a'th dâl yn gryf yn erbyn eu talcennau hwynt.

9. Gwneuthum dy dalcen fel adamant, yn galetach na'r gallestr: nac ofna hwynt, ac na ddychryna rhag eu hwynebau, er mai tŷ gwrthryfelgar ydynt.

10. Dywedodd hefyd wrthyf, Ha fab dyn, derbyn â'th galon, a chlyw â'th glustiau, fy holl eiriau a lefarwyf wrthyt.

11. Cerdda hefyd, a dos at y gaethglud, at feibion dy bobl, a llefara hefyd wrthynt, a dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; pa un bynnag a wnelont ai gwrando ai peidio.

12. Yna yr ysbryd a'm cymerodd, a chlywn sŵn cynnwrf mawr o'm hôl, yn dywedyd, Bendigedig fyddo gogoniant yr Arglwydd o'i le.

13. A sŵn adenydd y pethau byw oedd yn cyffwrdd â'i gilydd, a sŵn yr olwynion ar eu cyfer hwynt, a sŵn cynnwrf mawr.

14. A'r ysbryd a'm cyfododd, ac a'm cymerodd ymaith, a mi a euthum yn chwerw yn angerdd fy ysbryd; ond llaw yr Arglwydd oedd gref arnaf.

15. A mi a ddeuthum i Tel‐abib, at y gaethglud oedd yn aros wrth afon Chebar, a mi a eisteddais lle yr oeddynt hwythau yn eistedd, ie, eisteddais yno saith niwrnod yn syn yn eu plith hwynt.

16. Ac ymhen y saith niwrnod y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd,

17. Mab dyn, mi a'th wneuthum di yn wyliedydd i dŷ Israel: am hynny gwrando y gair o'm genau, a rhybuddia hwynt oddi wrthyf fi.

18. Pan ddywedwyf wrth y drygionus, Gan farw y byddi farw; oni rybuddi ef, ac oni leferi i rybuddio y drygionus oddi wrth ei ddrycffordd, fel y byddo byw; y drygionus hwn a fydd farw yn ei anwiredd: ond ei waed ef a ofynnaf fi ar dy law di.

19. Ond os rhybuddi y drygionus, ac yntau heb droi oddi wrth ei ddrygioni, na'i ffordd ddrygionus, efe a fydd marw yn ei ddrygioni; ond ti a achubaist dy enaid.

Eseciel 3