Eseciel 29:1-6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yn y degfed mis o'r ddegfed flwyddyn, ar y deuddegfed dydd o'r mis, y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd,

2. Gosod, fab dyn, dy wyneb yn erbyn Pharo brenin yr Aifft, a phroffwyda yn ei erbyn ef, ac yn erbyn yr Aifft oll.

3. Llefara, a dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi i'th erbyn, Pharo brenin yr Aifft, y ddraig fawr yr hwn sydd yn gorwedd yng nghanol ei afonydd, yr hwn a ddywedodd, Eiddof fi yw fy afon, a mi a'i gwneuthum hi i mi fy hun.

4. Eithr gosodaf fachau yn dy fochgernau, a gwnaf i bysgod dy afonydd lynu yn dy emau, a chodaf di o ganol dy afonydd; ie, holl bysgod dy afonydd a lynant wrth dy emau.

5. A mi a'th adawaf yn yr anialwch, ti a holl bysgod dy afonydd: syrthi ar wyneb y maes, ni'th gesglir, ac ni'th gynullir; i fwystfilod y maes ac i ehediaid y nefoedd y'th roddais yn ymborth.

6. A holl drigolion yr Aifft a gânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd, am iddynt fod yn ffon gorsen i dŷ Israel.

Eseciel 29