Eseciel 27:15-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. Meibion Dedan oedd dy farchnadwyr; ynysoedd lawer oedd farchnadoedd dy law: dygasant gyrn ifori ac ebenus yn anrheg i ti.

16. Aram oedd dy farchnadydd oherwydd amled pethau o'th waith di: am garbuncl, porffor, a gwaith edau a nodwydd, a lliain meinllin, a chwrel, a gemau, y marchnatasant yn dy ffeiriau.

17. Jwda a thir Israel, hwythau oedd dy farchnadyddion: marchnatasant yn dy farchnad am wenith Minnith, a Phannag, a mêl, ac olew, a thriagl.

18. Damascus oedd dy farchnadydd yn amlder dy waith oherwydd lliaws pob golud; am win Helbon, a gwlân gwyn.

19. Dan hefyd a Jafan yn cyniwair a farchnatasant yn dy farchnadoedd: haearn wedi ei weithio, casia, a'r calamus, oedd yn dy farchnad.

20. Dedan oedd dy farchnadydd mewn brethynnau gwerthfawr i gerbydau.

21. Arabia, a holl dywysogion Cedar, oedd hwythau farchnadyddion i ti am ŵyn, hyrddod, a bychod: yn y rhai hyn yr oedd dy farchnadyddion.

22. Marchnadyddion Seba a Rama, hwythau oedd dy farchnadyddion: marchnatasant yn dy ffeiriau am bob prif beraroglau, ac am bob maen gwerthfawr, ac aur.

Eseciel 27