8. Dy ferched a ladd efe yn y maes â'r cleddyf; ac a esyd wrthglawdd i'th erbyn, ac a fwrw glawdd i'th erbyn, ac a gyfyd darian i'th erbyn.
9. Ac efe a esyd beiriannau rhyfel yn erbyn dy geyrydd, a'th dyrau a fwrw efe i lawr â'i fwyeill.
10. Gan amlder ei feirch ef, eu llwch a'th doa: dy geyrydd a gynhyrfant gan sŵn y marchogion, a'r olwynion, a'r cerbydau, pan ddelo trwy dy byrth di, fel dyfod i ddinas adwyog.
11. A charnau ei feirch y sathr efe dy heolydd oll: dy bobl a ladd efe â'r cleddyf, a'th sefyllfannau cedyrn a ddisgyn i'r llawr.
12. A hwy a anrheithiant dy gyfoeth, ac a ysbeiliant dy farchnadaeth; ac a ddinistriant dy geyrydd, a'th dai dymunol a dynnant i lawr: a'th gerrig, a'th goed, a'th bridd, a osodant yng nghanol y dyfroedd.
13. A gwnaf i sŵn dy ganiadau beidio; ac ni chlywir mwy lais dy delynau.
14. A gwnaf di yn gopa craig: taenfa rhwydau fyddi: ni'th adeiledir mwy: canys myfi yr Arglwydd a'i lleferais, medd yr Arglwydd Dduw.
15. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw wrth Tyrus: Oni chrŷn yr ynysoedd gan sŵn dy gwymp, pan waeddo yr archolledig, pan ladder lladdfa yn dy ganol?
16. Yna holl dywysogion y môr a ddisgynnant o'u gorseddfeinciau, ac a fwriant ymaith eu mantelloedd, ac a ddiosgant eu gwisgoedd symudliw: dychryn a wisgant, ar y ddaear yr eisteddant, ac a ddychrynant ar bob moment, ac a synnant wrthyt.
17. Codant hefyd alarnad amdanat, a dywedant wrthyt, Pa fodd y'th ddifethwyd, yr hon a breswylir gan forwyr, y ddinas ganmoladwy, yr hon oedd gref ar y môr, hi a'i thrigolion, y rhai a roddasant eu harswyd ar ei holl ymdeithwyr hi?
18. Yr awr hon yr ynysoedd a ddychrynant yn nydd dy gwymp; ie, yr ynysoedd y rhai sydd yn y môr a drallodir wrth dy fynediad di ymaith.
19. Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Pan roddwyf di yn ddinas anrheithiedig, fel y dinasoedd nis cyfanheddir; gan ddwyn arnat y dyfnder, fel y'th guddio dyfroedd lawer;