Eseciel 25:5-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Rhoddaf hefyd Rabba yn drigfa camelod, a meibion Ammon yn orweddfa defaid: fel y gwypoch mai myfi yw yr Arglwydd.

6. Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Oherwydd taro ohonot dy ddwylo, a churo ohonot â'th draed, a llawenychu ohonot yn dy galon â'th holl ddirmyg yn erbyn tir Israel;

7. Am hynny wele, mi a estynnaf fy llaw arnat, ac a'th roddaf yn fwyd i'r cenhedloedd, ac a'th dorraf ymaith o fysg y bobloedd, ac a'th ddifethaf o'r tiroedd: dinistriaf di; fel y gwypech mai myfi yw yr Arglwydd.

8. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Am ddywedyd o Moab a Seir, Wele dŷ Jwda fel yr holl genhedloedd:

9. Am hynny wele fi yn agori ystlys Moab o'r dinasoedd, o'i ddinasoedd ef y rhai sydd yn ei gyrrau, gogoniant y wlad, Beth‐jesimoth, Baal‐meon, a Ciriathaim,

10. I feibion y dwyrain ynghyd â meibion Ammon, a rhoddaf hwynt yn etifeddiaeth; fel na chofier meibion Ammon ymysg y cenhedloedd.

11. Gwnaf farn hefyd ar Moab; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd.

Eseciel 25