6. Am hynny yr Arglwydd Dduw a ddywed fel hyn, Gwae ddinas y gwaed, y crochan yr hwn y mae ei ysgum ynddo, ac nid aeth ei ysgum allan ohono: tyn ef allan bob yn ddryll: na syrthied coelbren arno.
7. Oherwydd ei gwaed sydd yn ei chanol: ar gopa craig y gosododd hi ef; nis tywalltodd ar y ddaear, i fwrw arno lwch:
8. I beri i lid godi i wneuthur dial; rhoddais ei gwaed hi ar gopa craig, rhag ei guddio.
9. Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Gwae ddinas y gwaed! minnau a wnaf ei thanllwyth yn fawr.
10. Amlha y coed, cynnau y tân, difa y cig, a gwna goginiaeth, a llosger yr esgyrn.
11. A dod ef ar ei farwor yn wag, fel y twymo, ac y llosgo ei bres, ac y toddo ei aflendid ynddo, ac y darfyddo ei ysgum.