Eseciel 24:1-6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Drachefn yn y nawfed flwyddyn, yn y degfed mis, ar y degfed dydd o'r mis, y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd,

2. Ysgrifenna i ti enw y dydd hwn, fab dyn, ie, corff y dydd hwn: ymosododd brenin Babilon yn erbyn Jerwsalem o fewn corff y dydd hwn.

3. A thraetha ddihareb wrth y tŷ gwrthryfelgar, a dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Gosod y crochan, gosod, a thywallt hefyd ddwfr ynddo.

4. Casgl ei ddrylliau iddo, pob dryll teg, y morddwyd, a'r ysgwyddog; llanw ef â'r dewis esgyrn.

5. Cymer ddewis o'r praidd, a chynnau yr esgyrn dano, a berw ef yn ferwedig; ie, berwed ei esgyrn o'i fewn.

6. Am hynny yr Arglwydd Dduw a ddywed fel hyn, Gwae ddinas y gwaed, y crochan yr hwn y mae ei ysgum ynddo, ac nid aeth ei ysgum allan ohono: tyn ef allan bob yn ddryll: na syrthied coelbren arno.

Eseciel 24