Eseciel 23:47-49 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

47. A'r dyrfa a'u llabyddiant hwy â meini, ac a'u torrant hwy â'u cleddyfau: eu meibion a'u merched a laddant, a'u tai a losgant â thân.

48. Fel hyn y gwnaf finnau i ysgelerder beidio o'r wlad, fel y dysgir yr holl wragedd na wnelont yn ôl eich ysgelerder chwi.

49. A hwy a roddant eich ysgelerder i'ch erbyn, a chwi a ddygwch bechodau eich eilunod; ac a gewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd Dduw.

Eseciel 23