Eseciel 23:28-40 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

28. Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Wele fi yn dy roddi yn llaw y rhai a gaseaist, yn llaw y rhai y ciliodd dy feddwl oddi wrthynt.

29. A gwnânt â thi yn atgas, ac a gymerant dy holl lafur, ac a'th adawant di yn llom ac yn noeth: a datguddir noethni dy buteindra; ie, dy ysgelerder a'th buteindra.

30. Mi a wnaf hyn i ti, am buteinio ohonot ar ôl y cenhedloedd, am dy halogi gyda'u heilunod hwynt.

31. Ti a rodiaist yn ffordd dy chwaer; am hynny y rhoddaf finnau ei chwpan hi yn dy law di.

32. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Dwfn a helaeth gwpan dy chwaer a yfi: ti a fyddi i'th watwar ac i'th ddirmygu: y mae llawer yn genni ynddo.

33. Ti a lenwir â meddwdod ac â gofid, o gwpan syndod ac anrhaith, o gwpan dy chwaer Samaria.

34. Canys ti a yfi, ac a sugni ohono; drylli hefyd ei ddarnau ef, ac a dynni ymaith dy fronnau dy hun: canys myfi a'i lleferais, medd yr Arglwydd Dduw.

35. Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Oherwydd i ti fy anghofio, a'm bwrw ohonot tu ôl i'th gefn; am hynny dwg dithau dy ysgelerder a'th buteindra.

36. Dywedodd yr Arglwydd hefyd wrthyf, A ferni di, fab dyn, Ahola ac Aholiba? ie, mynega iddynt eu ffieidd‐dra;

37. Iddynt dorri priodas, a bod gwaed yn eu dwylo; ie, gyda'u heilunod y puteiniasant; eu meibion hefyd y rhai a blantasant i mi, a dynasant trwy dân iddynt i'w hysu.

38. Gwnaethant hyn ychwaneg i mi; fy nghysegr a aflanhasant yn y dydd hwnnw, a'm Sabothau a halogasant.

39. Canys pan laddasant eu meibion i'w heilunod, yna y daethant i'm cysegr yn y dydd hwnnw, i'w halogi ef: ac wele, fel hyn y gwnaethant yng nghanol fy nhŷ.

40. A hefyd gan anfon ohonoch am wŷr i ddyfod o bell, y rhai yr anfonwyd cennad atynt, ac wele daethant: er mwyn y rhai yr ymolchaist, y lliwiaist dy lygaid, ac yr ymherddaist â harddwch.

Eseciel 23