21. Y meibion hwythau a wrthryfelasant i'm herbyn; yn fy neddfau ni rodiasant, a'm barnedigaethau ni chadwasant trwy eu gwneuthur hwynt, y rhai y bydd byw ynddynt y dyn a'u gwnelo hwynt: halogasant fy Sabothau: yna y dywedais y tywalltwn fy llid arnynt, i gyflawni fy nig wrthynt yn yr anialwch.
22. Eto troais heibio fy llaw, a gwneuthum er mwyn fy enw, fel na halogid ef yng ngolwg y cenhedloedd y rhai y dygaswn hwynt allan yn eu gŵydd.
23. Hefyd mi a dyngaswn wrthynt yn yr anialwch, ar eu gwasgaru hwynt ymysg y cenhedloedd, a'u taenu hwynt ar hyd y gwledydd;
24. Oherwydd fy marnedigaethau ni wnaethent, ond fy neddfau a ddiystyrasent, fy Sabothau hefyd a halogasent, a'u llygaid oedd ar ôl eilunod eu tadau.
25. Minnau hefyd a roddais iddynt ddeddfau nid oeddynt dda, a barnedigaethau ni byddent fyw ynddynt:
26. Ac a'u halogais hwynt yn eu hoffrymau, wrth dynnu trwy dân bob peth a agoro y groth, fel y dinistriwn hwynt; fel y gwybyddent mai myfi yw yr Arglwydd.
27. Am hynny, fab dyn, llefara wrth dŷ Israel, a dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Eto yn hyn y'm cablodd eich tadau, gan wneuthur ohonynt gamwedd i'm herbyn.
28. Canys dygais hwynt i'r tir a dyngaswn ar ei roddi iddynt, a gwelsant bob bryn uchel, a phob pren brigog; ac aberthasant yno eu hebyrth, ac yno y rhoddasant eu hoffrymau dicllonedd: yno hefyd y gosodasant eu harogl peraidd, ac yno y tywalltasant eu diod‐offrymau.
29. Yna y dywedais wrthynt, Beth yw yr uchelfa yr ydych chwi yn myned iddi? a Bama y galwyd ei henw hyd y dydd hwn.
30. Am hynny dywed wrth dŷ Israel, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Ai ar ffordd eich tadau yr ymhalogwch chwi? ac a buteiniwch chwi ar ôl eu ffieidd‐dra hwynt?
31. Canys pan offrymoch eich offrymau, gan dynnu eich meibion trwy y tân, yr ymhalogwch wrth eich holl eilunod hyd heddiw: a fynnaf fi gennych ymofyn â mi, tŷ Israel? Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, nid ymofynnir â mi gennych.
32. Eich bwriad hefyd ni bydd ddim, yr hyn a ddywedwch, Byddwn fel y cenhedloedd, fel teuluoedd y gwledydd, i wasanaethu pren a maen.
33. Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, yn ddiau â llaw gadarn, ac â braich estynedig, ac â llidiowgrwydd tywalltedig, y teyrnasaf arnoch.
34. A dygaf chwi allan ymysg y bobloedd, a chasglaf chwi o'r gwledydd y rhai y'ch gwasgarwyd ynddynt, â llaw gadarn, ac â braich estynedig, ac â llidiowgrwydd tywalltedig.
35. A dygaf chwi i anialwch y bobloedd, ac ymddadleuaf â chwi yno wyneb yn wyneb.
36. Fel yr ymddadleuais â'ch tadau yn anialwch tir yr Aifft, felly yr ymddadleuaf â chwithau, medd yr Arglwydd Dduw.