7. Adnabu hefyd eu gweddwon hwynt, a'u dinasoedd a anrheithiodd efe; ie, anrheithiwyd y tir a'i gyflawnder gan lais ei ruad ef.
8. Yna y cenhedloedd a ymosodasant yn ei erbyn ef o amgylch o'r taleithiau, ac a daenasant eu rhwyd arno; ac efe a ddaliwyd yn eu ffos hwynt.
9. A hwy a'i rhoddasant ef yng ngharchar mewn cadwyni, ac a'i dygasant at frenin Babilon: dygasant ef i amddiffynfeydd, fel na chlywid ei lais ef mwy ar fynyddoedd Israel.
10. Dy fam sydd fel gwinwydden yn dy waed di, wedi ei phlannu wrth ddyfroedd: ffrwythlon a brigog oedd, oherwydd dyfroedd lawer.
11. Ac yr oedd iddi wiail cryfion yn deyrnwiail llywodraethwyr, a'i huchder oedd uchel ymysg y tewfrig; fel y gwelid hi yn ei huchder yn amlder ei changhennau.
12. Ond hi a ddiwreiddiwyd mewn llidiowgrwydd, bwriwyd hi i'r llawr, a gwynt y dwyrain a wywodd ei ffrwyth hi: ei gwiail cryfion hi a dorrwyd ac a wywasant; tân a'u hysodd.
13. Ac yr awr hon hi a blannwyd mewn anialwch, mewn tir cras a sychedig.
14. A thân a aeth allan o wialen ei changhennau, ysodd ei ffrwyth hi, fel nad oedd ynddi wialen gref yn deyrnwialen i lywodraethu. Galarnad yw hwn, ac yn alarnad y bydd.