Eseciel 19:10-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. Dy fam sydd fel gwinwydden yn dy waed di, wedi ei phlannu wrth ddyfroedd: ffrwythlon a brigog oedd, oherwydd dyfroedd lawer.

11. Ac yr oedd iddi wiail cryfion yn deyrnwiail llywodraethwyr, a'i huchder oedd uchel ymysg y tewfrig; fel y gwelid hi yn ei huchder yn amlder ei changhennau.

12. Ond hi a ddiwreiddiwyd mewn llidiowgrwydd, bwriwyd hi i'r llawr, a gwynt y dwyrain a wywodd ei ffrwyth hi: ei gwiail cryfion hi a dorrwyd ac a wywasant; tân a'u hysodd.

13. Ac yr awr hon hi a blannwyd mewn anialwch, mewn tir cras a sychedig.

14. A thân a aeth allan o wialen ei changhennau, ysodd ei ffrwyth hi, fel nad oedd ynddi wialen gref yn deyrnwialen i lywodraethu. Galarnad yw hwn, ac yn alarnad y bydd.

Eseciel 19