Eseciel 19:1-4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Cymer dithau alarnad am dywysogion Israel,

2. A dywed, Beth yw dy fam? llewes: gorweddodd ymysg llewod, yng nghanol y llewod ieuainc y maethodd hi ei chenawon.

3. A hi a ddug i fyny un o'i chenawon: efe a aeth yn llew ieuanc, ac a ddysgodd ysglyfaethu ysglyfaeth; bwytaodd ddynion.

4. Yna y cenhedloedd a glywsant sôn amdano; daliwyd ef yn eu ffos hwynt, a dygasant ef mewn cadwynau i dir yr Aifft.

Eseciel 19