26. Pan ddychwelo y cyfiawn oddi wrth ei gyfiawnder, a gwneuthur anwiredd, a marw ynddynt; am ei anwiredd a wnaeth y bydd efe marw.
27. A phan ddychwelo yr annuwiol oddi wrth ei ddrygioni yr hwn a wnaeth, a gwneuthur barn a chyfiawnder, hwnnw a geidw yn fyw ei enaid.
28. Am iddo ystyried, a dychwelyd oddi wrth ei holl gamweddau y rhai a wnaeth, gan fyw y bydd byw, ni bydd marw.
29. Eto tŷ Israel a ddywedant, Nid cymwys yw ffordd yr Arglwydd. Tŷ Israel, onid cymwys fy ffyrdd i? onid eich ffyrdd chwi nid ydynt gymwys?
30. Am hynny barnaf chwi, tŷ Israel, bob un yn ôl ei ffyrdd ei hun, medd yr Arglwydd Dduw. Dychwelwch, a throwch oddi wrth eich holl gamweddau; fel na byddo anwiredd yn dramgwydd i chwi.
31. Bwriwch oddi wrthych eich holl gamweddau y camweddasoch ynddynt, a gwnewch i chwi galon newydd, ac ysbryd newydd: canys paham, tŷ Israel, y byddwch feirw?