Eseciel 16:53-63 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

53. Pan ddychwelwyf eu caethiwed hwynt, caethiwed Sodom a'i merched, a chaethiwed Samaria a'i merched, yna y dychwelaf gaethiwed dy gaethion dithau a'th ferched yn eu canol hwynt:

54. Fel y dygech dy warth, ac y'th waradwydder, am yr hyn oll a wnaethost, gan gysuro ohonot hwynt.

55. Pan ddychwelo dy chwiorydd, Sodom a'i merched, i'w hen gyflwr, a phan ddychwelo Samaria a'i merched i'w hen gyflwr, yna tithau a'th ferched a ddychwelwch i'ch hen gyflwr.

56. Canys nid oedd mo'r sôn am Sodom dy chwaer yn dy enau yn nydd dy falchder,

57. Cyn datguddio dy ddrygioni, megis yn amser dy waradwydd gan ferched Syria, a'r holl rai o'i hamgylch, merched y Philistiaid, y rhai a'th ddiystyrant o bob parth.

58. Dy ysgelerder, a'th ffieidd‐dra hefyd, ti a'u dygaist hwynt, medd yr Arglwydd.

59. Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Felly y gwnaf â thi fel y gwnaethost, yr hon a ddiystyraist lw, i ddiddymu'r cyfamod.

60. Eto mi a gofiaf fy nghyfamod â thi yn nyddiau dy ieuenctid, ac a sicrhaf i ti gyfamod tragwyddol.

61. Yna y cofi dy ffyrdd, ac y cywilyddi, pan dderbyniech dy chwiorydd hŷn na thi, gyda'r rhai ieuangach na thi: a rhoddaf hwynt yn ferched i ti, a hynny nid wrth dy amod di.

62. A mi a sicrhaf fy nghyfamod â thi; a chei wybod mai myfi yw yr Arglwydd:

63. Fel y cofiech di, ac y cywilyddiech, ac na byddo i ti mwy agoryd safn gan dy waradwydd, pan ddyhudder fi tuag atat, am yr hyn oll a wnaethost, medd yr Arglwydd Dduw.

Eseciel 16