33. I bob putain y rhoddant wobr; ond tydi a roddi dy wobr i'th holl gariadau, ac a'u gobrwyi hwynt i ddyfod atat oddi amgylch i'th buteindra.
34. Ac ynot ti y mae y gwrthwyneb i wragedd eraill yn dy buteindra, gan na phuteiniodd neb ar dy ôl di: canys lle y rhoddi wobr, ac na roddir gwobr i ti, yna yr wyt yn y gwrthwyneb.
35. Gan hynny, O butain, clyw air yr Arglwydd:
36. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Am dywallt dy frynti, a datguddio dy noethni trwy dy buteindra gyda'th gariadau, a chyda holl eilunod dy ffieidd‐dra, a thrwy waed dy feibion y rhai a roddaist iddynt;
37. Am hynny wele fi yn casglu dy holl gariadau gyda'r rhai yr ymddigrifaist, a'r rhai oll a geraist, gyda'r rhai oll a gaseaist; ie, casglaf hwynt i'th erbyn oddi amgylch, ac a ddinoethaf dy noethni iddynt, fel y gwelont dy holl noethni.
38. Barnaf di hefyd â barnedigaethau puteiniaid, a'r rhai a dywalltant waed; a rhoddaf i ti waed mewn llidiowgrwydd ac eiddigedd.
39. Ie, rhoddaf di yn eu dwylo hwynt, a hwy a ddinistriant dy uchelfa, ac a fwriant i lawr dy uchel leoedd: diosgant di hefyd o'th ddillad, a chymerant ddodrefn dy harddwch, ac a'th adawant yn llom ac yn noeth.
40. Dygant hefyd dyrfa i'th erbyn, ac a'th labyddiant â meini, ac â'u cleddyfau y'th drywanant.
41. Llosgant hefyd dy dai â thân, a gwnânt arnat farnedigaethau yng ngolwg gwragedd lawer: a mi a wnaf i ti beidio â phuteinio, a hefyd ni roddi wobr mwy.
42. Felly y llonyddaf fy llid i'th erbyn, a symud fy eiddigedd oddi wrthyt; mi a lonyddaf hefyd, ac ni ddigiaf mwy.
43. Am na chofiaist ddyddiau dy ieuenctid, ond anogaist fi i lid yn hyn oll; am hynny wele, myfi a roddaf dy ffordd ar dy ben, medd yr Arglwydd Dduw: fel na wnelych yr ysgelerder hyn am ben dy holl ffieidd‐dra.
44. Wele, pob diarhebydd a ddiarheba amdanat, gan ddywedyd, Fel y fam y mae y ferch.
45. Merch dy fam, yr hon a ffieiddiodd ei gŵr a'i meibion, ydwyt ti; a chwaer dy chwiorydd ydwyt, y rhai a ffieiddiasant eu gwŷr a'u meibion: eich mam oedd Hittees, a'ch tad yn Amoriad.
46. A'th chwaer hynaf yw Samaria, hi a'i merched yn trigo ar dy law aswy a'th chwaer ieuangach na thi, yr hon sydd yn trigo ar dy law ddeau, yw Sodom a'i merched.