Eseciel 16:32-40 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

32. Ond fel gwraig a dorrai ei phriodas, ac a gymerai ddieithriaid yn lle ei gŵr.

33. I bob putain y rhoddant wobr; ond tydi a roddi dy wobr i'th holl gariadau, ac a'u gobrwyi hwynt i ddyfod atat oddi amgylch i'th buteindra.

34. Ac ynot ti y mae y gwrthwyneb i wragedd eraill yn dy buteindra, gan na phuteiniodd neb ar dy ôl di: canys lle y rhoddi wobr, ac na roddir gwobr i ti, yna yr wyt yn y gwrthwyneb.

35. Gan hynny, O butain, clyw air yr Arglwydd:

36. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Am dywallt dy frynti, a datguddio dy noethni trwy dy buteindra gyda'th gariadau, a chyda holl eilunod dy ffieidd‐dra, a thrwy waed dy feibion y rhai a roddaist iddynt;

37. Am hynny wele fi yn casglu dy holl gariadau gyda'r rhai yr ymddigrifaist, a'r rhai oll a geraist, gyda'r rhai oll a gaseaist; ie, casglaf hwynt i'th erbyn oddi amgylch, ac a ddinoethaf dy noethni iddynt, fel y gwelont dy holl noethni.

38. Barnaf di hefyd â barnedigaethau puteiniaid, a'r rhai a dywalltant waed; a rhoddaf i ti waed mewn llidiowgrwydd ac eiddigedd.

39. Ie, rhoddaf di yn eu dwylo hwynt, a hwy a ddinistriant dy uchelfa, ac a fwriant i lawr dy uchel leoedd: diosgant di hefyd o'th ddillad, a chymerant ddodrefn dy harddwch, ac a'th adawant yn llom ac yn noeth.

40. Dygant hefyd dyrfa i'th erbyn, ac a'th labyddiant â meini, ac â'u cleddyfau y'th drywanant.

Eseciel 16