Eseciel 16:21-38 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

21. Ladd ohonot fy mhlant, a'u rhoddi hwynt i'w tynnu trwy y tân iddynt?

22. Ac yn dy holl ffieidd‐dra a'th buteindra ni chofiaist ddyddiau dy ieuenctid, pan oeddit lom a noeth, a'th fod yn ymdrybaeddu yn dy waed.

23. A bu ar ôl dy holl ddrygioni, (Gwae, gwae i ti! medd yr Arglwydd Dduw,)

24. Adeiladu ohonot i ti uchelfa, a gwneuthur i ti uchelfa ym mhob heol.

25. Ym mhen pob ffordd yr adeiledaist dy uchelfa, a gwnaethost dy degwch yn ffiaidd, ac a ledaist dy draed i bob cyniweirydd, ac amlheaist dy buteindra.

26. Puteiniaist hefyd gyda meibion yr Aifft dy gymdogion, mawr eu cnawd; ac a amlheaist dy buteindra, i'm digio i.

27. Am hynny wele, estynnais fy llaw arnat, a phrinheais dy ran, a rhoddais di wrth ewyllys dy gaseion, merched y Philistiaid, y rhai sydd gywilydd ganddynt dy ffordd ysgeler.

28. Puteiniaist hefyd gyda meibion Assur, o eisiau cael dy ddigon; a hefyd wedi puteinio gyda hwynt, ni'th ddigonwyd.

29. Amlheaist hefyd dy buteindra yng ngwlad Canaan hyd Caldea; ac eto ni'th ddigonwyd â hyn.

30. Mor llesg yw dy galon, medd yr Arglwydd Dduw, gan i ti wneuthur hyn oll, sef gwaith puteinwraig yn llywodraethu!

31. Pan adeiledaist dy uchelfa ym mhen pob ffordd, ac y gwnaethost dy uchelfa ym mhob heol; ac nid oeddit fel putain, gan dy fod yn dirmygu gwobr;

32. Ond fel gwraig a dorrai ei phriodas, ac a gymerai ddieithriaid yn lle ei gŵr.

33. I bob putain y rhoddant wobr; ond tydi a roddi dy wobr i'th holl gariadau, ac a'u gobrwyi hwynt i ddyfod atat oddi amgylch i'th buteindra.

34. Ac ynot ti y mae y gwrthwyneb i wragedd eraill yn dy buteindra, gan na phuteiniodd neb ar dy ôl di: canys lle y rhoddi wobr, ac na roddir gwobr i ti, yna yr wyt yn y gwrthwyneb.

35. Gan hynny, O butain, clyw air yr Arglwydd:

36. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Am dywallt dy frynti, a datguddio dy noethni trwy dy buteindra gyda'th gariadau, a chyda holl eilunod dy ffieidd‐dra, a thrwy waed dy feibion y rhai a roddaist iddynt;

37. Am hynny wele fi yn casglu dy holl gariadau gyda'r rhai yr ymddigrifaist, a'r rhai oll a geraist, gyda'r rhai oll a gaseaist; ie, casglaf hwynt i'th erbyn oddi amgylch, ac a ddinoethaf dy noethni iddynt, fel y gwelont dy holl noethni.

38. Barnaf di hefyd â barnedigaethau puteiniaid, a'r rhai a dywalltant waed; a rhoddaf i ti waed mewn llidiowgrwydd ac eiddigedd.

Eseciel 16