Eseciel 16:17-25 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

17. A chymeraist offer dy harddwch o'm haur ac o'm harian i, y rhai a roddaswn i ti, a gwnaethost i ti ddelwau gwŷr, a phuteiniaist gyda hwynt.

18. Cymeraist hefyd dy wisgoedd o waith edau a nodwydd, ac a'u gwisgaist hwynt: fy olew hefyd a'm harogl‐darth a roddaist o'u blaen hwynt.

19. Felly fy mwyd yr hwn a roddaswn i ti, yn beilliaid, ac yn olew, ac yn fêl, â'r rhai y'th borthaswn di; rhoddaist hynny hefyd o'u blaen hwynt yn arogl peraidd: fel hyn y bu, medd yr Arglwydd Dduw.

20. Cymeraist hefyd dy feibion a'th ferched, y rhai a blantasit i mi; y rhai hyn a aberthaist iddynt i'w bwyta. Ai bychan hyn o'th buteindra di,

21. Ladd ohonot fy mhlant, a'u rhoddi hwynt i'w tynnu trwy y tân iddynt?

22. Ac yn dy holl ffieidd‐dra a'th buteindra ni chofiaist ddyddiau dy ieuenctid, pan oeddit lom a noeth, a'th fod yn ymdrybaeddu yn dy waed.

23. A bu ar ôl dy holl ddrygioni, (Gwae, gwae i ti! medd yr Arglwydd Dduw,)

24. Adeiladu ohonot i ti uchelfa, a gwneuthur i ti uchelfa ym mhob heol.

25. Ym mhen pob ffordd yr adeiledaist dy uchelfa, a gwnaethost dy degwch yn ffiaidd, ac a ledaist dy draed i bob cyniweirydd, ac amlheaist dy buteindra.

Eseciel 16