Eseciel 16:13-30 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. Felly y'th harddwyd ag aur ac arian; a'th wisg oedd liain main, a sidan, a gwaith edau a nodwydd; peilliaid, a mêl, ac olew a fwyteit: teg hefyd odiaeth oeddit, a ffynnaist yn frenhiniaeth.

14. Aeth allan hefyd i ti enw ymysg y cenhedloedd, am dy degwch: canys cyflawn oedd gan fy harddwch yr hwn a osodaswn arnat, medd yr Arglwydd Dduw.

15. Ond ti a ymddiriedaist i'th degwch, a phuteiniaist oherwydd dy enw, a thywelltaist dy buteindra ar bob cyniweirydd; eiddo ef ydoedd.

16. Cymeraist hefyd o'th ddillad, a gwnaethost i ti uchelfeydd brithion, a phuteiniaist arnynt: y fath ni ddaw, ac ni bydd felly.

17. A chymeraist offer dy harddwch o'm haur ac o'm harian i, y rhai a roddaswn i ti, a gwnaethost i ti ddelwau gwŷr, a phuteiniaist gyda hwynt.

18. Cymeraist hefyd dy wisgoedd o waith edau a nodwydd, ac a'u gwisgaist hwynt: fy olew hefyd a'm harogl‐darth a roddaist o'u blaen hwynt.

19. Felly fy mwyd yr hwn a roddaswn i ti, yn beilliaid, ac yn olew, ac yn fêl, â'r rhai y'th borthaswn di; rhoddaist hynny hefyd o'u blaen hwynt yn arogl peraidd: fel hyn y bu, medd yr Arglwydd Dduw.

20. Cymeraist hefyd dy feibion a'th ferched, y rhai a blantasit i mi; y rhai hyn a aberthaist iddynt i'w bwyta. Ai bychan hyn o'th buteindra di,

21. Ladd ohonot fy mhlant, a'u rhoddi hwynt i'w tynnu trwy y tân iddynt?

22. Ac yn dy holl ffieidd‐dra a'th buteindra ni chofiaist ddyddiau dy ieuenctid, pan oeddit lom a noeth, a'th fod yn ymdrybaeddu yn dy waed.

23. A bu ar ôl dy holl ddrygioni, (Gwae, gwae i ti! medd yr Arglwydd Dduw,)

24. Adeiladu ohonot i ti uchelfa, a gwneuthur i ti uchelfa ym mhob heol.

25. Ym mhen pob ffordd yr adeiledaist dy uchelfa, a gwnaethost dy degwch yn ffiaidd, ac a ledaist dy draed i bob cyniweirydd, ac amlheaist dy buteindra.

26. Puteiniaist hefyd gyda meibion yr Aifft dy gymdogion, mawr eu cnawd; ac a amlheaist dy buteindra, i'm digio i.

27. Am hynny wele, estynnais fy llaw arnat, a phrinheais dy ran, a rhoddais di wrth ewyllys dy gaseion, merched y Philistiaid, y rhai sydd gywilydd ganddynt dy ffordd ysgeler.

28. Puteiniaist hefyd gyda meibion Assur, o eisiau cael dy ddigon; a hefyd wedi puteinio gyda hwynt, ni'th ddigonwyd.

29. Amlheaist hefyd dy buteindra yng ngwlad Canaan hyd Caldea; ac eto ni'th ddigonwyd â hyn.

30. Mor llesg yw dy galon, medd yr Arglwydd Dduw, gan i ti wneuthur hyn oll, sef gwaith puteinwraig yn llywodraethu!

Eseciel 16