Eseciel 16:1-3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd,

2. Ha fab dyn, gwna i Jerwsalem adnabod ei ffieidd‐dra,

3. A dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw wrth Jerwsalem; Dy drigfa a'th enedigaeth sydd o wlad Canaan: dy dad oedd Amoriad, a'th fam yn Hittees.

Eseciel 16