Eseciel 14:7-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. Canys pob un o dŷ Israel, ac o'r dieithr a ymdeithio o fewn Israel, a ymneilltuo oddi ar fy ôl i, ac a ddyrchafo ei eilunod yn ei galon, ac a osodo dramgwydd ei anwiredd ar gyfer ei wyneb, ac a ddêl at broffwyd i ymofyn â myfi trwyddo ef; myfi yr Arglwydd a atebaf iddo trwof fy hun.

8. Gosodaf hefyd fy wyneb yn erbyn y gŵr hwnny: a gwnaf ef yn arwydd ac yn ddihareb, a thorraf ef ymaith o fysg fy mhobl; fel y gwypoch mai myfi yw yr Arglwydd.

9. Ac os twyllir y proffwyd pan lefaro air, myfi yr Arglwydd a dwyllodd y proffwyd hwnnw; a mi a estynnaf hefyd fy llaw arno ef, ac a'i difethaf o fysg fy mhobl Israel.

10. A hwy a ddygant eu hanwiredd: un fath fydd anwiredd yr ymofynnydd ag anwiredd y proffwyd:

11. Fel na chyfeiliorno tŷ Israel mwy oddi ar fy ôl, ac na haloger hwy mwy â'u holl droseddau; ond bod ohonynt i mi yn bobl, a minnau iddynt hwy yn Dduw, medd yr Arglwydd Dduw.

12. A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf drachefn, gan ddywedyd,

13. Ha fab dyn, pan becho gwlad i'm herbyn trwy wneuthur camwedd, yna yr estynnaf fy llaw arni, a thorraf ffon ei bara hi, ac anfonaf arni newyn, ac a dorraf ymaith ohoni ddyn ac anifail.

Eseciel 14