10. A hwy a ddygant eu hanwiredd: un fath fydd anwiredd yr ymofynnydd ag anwiredd y proffwyd:
11. Fel na chyfeiliorno tŷ Israel mwy oddi ar fy ôl, ac na haloger hwy mwy â'u holl droseddau; ond bod ohonynt i mi yn bobl, a minnau iddynt hwy yn Dduw, medd yr Arglwydd Dduw.
12. A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf drachefn, gan ddywedyd,
13. Ha fab dyn, pan becho gwlad i'm herbyn trwy wneuthur camwedd, yna yr estynnaf fy llaw arni, a thorraf ffon ei bara hi, ac anfonaf arni newyn, ac a dorraf ymaith ohoni ddyn ac anifail.
14. Pe byddai yn ei chanol y triwyr hyn, Noa, Daniel, a Job, hwynt‐hwy yn eu cyfiawnder a achubent eu henaid eu hun yn unig, medd yr Arglwydd Dduw.
15. Os bwystfil niweidiol a yrraf trwy y wlad, a'i difa o hwnnw, fel y byddo yn anghyfannedd, heb gyniweirydd rhag ofn y bwystfil:
16. Pe byddai y triwyr hyn yn ei chanol, fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, ni waredent na meibion na merched; hwynt‐hwy yn unig a waredid, a'r tir a fyddai yn anghyfannedd.
17. Neu os cleddyf a ddygaf ar y tir hwnnw, a dywedyd ohonof, Cyniwair, gleddyf, trwy y tir; fel y torrwyf ymaith ohono ddyn ac anifail:
18. A'r triwyr hyn yn ei ganol, fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, ni achubent na meibion na merched, ond hwynt‐hwy yn unig a achubid.
19. Neu os haint a anfonaf i'r wlad honno, a thywallt ohonof fy llid arni mewn gwaed, gan dorri ymaith ohoni ddyn ac anifail;
20. A Noa, Daniel, a Job, yn ei chanol hi; fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, ni waredent na mab na merch; hwynt‐hwy yn eu cyfiawnder a waredent eu heneidiau eu hun yn unig.
21. Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Pa faint mwy, pan anfonwyf fy mhedair drygfarn, cleddyf, a newyn, a bwystfil niweidiol, a haint, ar Jerwsalem, i dorri ymaith ohoni ddyn ac anifail?
22. Eto wele, bydd ynddi weddill dihangol, y rhai a ddygir allan, yn feibion a merched: wele hwynt yn dyfod allan atoch, a chewch weled eu ffyrdd hwynt a'u gweithredoedd; fel yr ymgysuroch oherwydd yr adfyd a ddygais ar Jerwsalem, sef yr hyn oll a ddygais arni.
23. Ie, cysurant chwi, pan weloch eu ffordd a'u gweithredoedd: a chewch wybod nad heb achos y gwneuthum yr hyn oll a wneuthum i'w herbyn hi, medd yr Arglwydd Dduw.