Eseciel 12:23-28 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

23. Am hynny dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Gwnaf i'r ddihareb hon beidio, fel nad arferont hi yn ddihareb mwy yn Israel: ond dywed wrthynt, Y dyddiau sydd agos, a sylwedd pob gweledigaeth.

24. Canys ni bydd mwy un weledigaeth ofer, na dewiniaeth wenieithus, o fewn tŷ Israel.

25. Canys myfi yw yr Arglwydd: mi a lefaraf, a'r gair a lefarwyf a wneir; nid oedir ef mwy: oherwydd yn eich dyddiau chwi, O dŷ gwrthryfelgar, y dywedaf y gair, ac a'i gwnaf, medd yr Arglwydd Dduw.

26. A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd,

27. Ha fab dyn, wele dŷ Israel yn dywedyd, Y weledigaeth a wêl efe fydd wedi dyddiau lawer, a phroffwydo y mae efe am amseroedd pell.

28. Am hynny dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Nid oedir dim o'm geiriau mwy, ond y gair a ddywedais a wneir, medd yr Arglwydd Dduw.

Eseciel 12