19. A dywed wrth bobl y tir, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw am drigolion Jerwsalem, ac am wlad Israel; Eu bara a fwytânt mewn gofal, a'u dwfr a yfant mewn syndod, fel yr anrheithir ei thir o'i chyflawnder, am drais y rhai oll a drigant ynddi.
20. A'r dinasoedd cyfanheddol a anghyfanheddir, a'r tir a fydd anrheithiol; felly y gwybyddwch mai myfi yw yr Arglwydd.
21. A daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd,
22. Ha fab dyn, beth yw y ddihareb hon gennych am dir Israel, gan ddywedyd, Y dyddiau a estynnwyd, a darfu am bob gweledigaeth?
23. Am hynny dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Gwnaf i'r ddihareb hon beidio, fel nad arferont hi yn ddihareb mwy yn Israel: ond dywed wrthynt, Y dyddiau sydd agos, a sylwedd pob gweledigaeth.
24. Canys ni bydd mwy un weledigaeth ofer, na dewiniaeth wenieithus, o fewn tŷ Israel.