Eseciel 10:20-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

20. Dyma y peth byw a welais dan Dduw Israel, wrth afon Chebar: a gwybûm mai y ceriwbiaid oeddynt.

21. Pedwar wyneb oedd i bob un, a phedair adain i bob un, a chyffelybrwydd dwylo dyn dan eu hadenydd.

22. Cyffelybrwydd eu hwynebau oedd yr un wynebau ag a welais wrth afon Chebar, eu dull hwynt a hwythau: cerddent bob un yn union rhag ei wyneb.

Eseciel 10