Eseciel 10:14-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. A phedwar wyneb oedd i bob un; yr wyneb cyntaf yn wyneb ceriwb, a'r ail wyneb yn wyneb dyn, a'r trydydd yn wyneb llew, a'r pedwerydd yn wyneb eryr.

15. A'r ceriwbiaid a ymddyrchafasant. Dyma y peth byw a welais wrth afon Chebar.

16. A phan gerddai y ceriwbiaid, y cerddai yr olwynion wrthynt; a phan godai y ceriwbiaid eu hadenydd i ymddyrchafu oddi ar y ddaear, yr olwynion hwythau ni throent chwaith oddi wrthynt.

17. Safent, pan safent hwythau; a chodent gyda hwy, pan godent hwythau; canys ysbryd y peth byw oedd ynddynt.

18. Yna gogoniant yr Arglwydd a aeth allan oddi ar riniog y tŷ, ac a safodd ar y ceriwbiaid.

19. A'r ceriwbiaid a godasant eu hadenydd, ac a ymddyrchafasant oddi ar y ddaear o flaen fy llygaid: a'r olwynion oedd yn eu hymyl, pan aethant allan: a safodd pob un wrth ddrws porth y dwyrain i dŷ yr Arglwydd; a gogoniant Duw Israel oedd arnynt oddi arnodd.

Eseciel 10