Eseciel 10:12-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. Eu holl gnawd hefyd, a'u cefnau, a'u dwylo, a'u hadenydd, a'r olwynion, oedd yn llawn llygaid oddi amgylch; sef yr olwynion oedd iddynt ill pedwar.

13. Galwyd hefyd lle y clywais arnynt hwy, sef ar yr olwynion, O olwyn.

14. A phedwar wyneb oedd i bob un; yr wyneb cyntaf yn wyneb ceriwb, a'r ail wyneb yn wyneb dyn, a'r trydydd yn wyneb llew, a'r pedwerydd yn wyneb eryr.

15. A'r ceriwbiaid a ymddyrchafasant. Dyma y peth byw a welais wrth afon Chebar.

16. A phan gerddai y ceriwbiaid, y cerddai yr olwynion wrthynt; a phan godai y ceriwbiaid eu hadenydd i ymddyrchafu oddi ar y ddaear, yr olwynion hwythau ni throent chwaith oddi wrthynt.

17. Safent, pan safent hwythau; a chodent gyda hwy, pan godent hwythau; canys ysbryd y peth byw oedd ynddynt.

Eseciel 10