Effesiaid 6:10-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. Heblaw hyn, fy mrodyr, ymnerthwch yn yr Arglwydd, ac yng nghadernid ei allu ef.

11. Gwisgwch holl arfogaeth Duw, fel y galloch sefyll yn erbyn cynllwynion diafol.

12. Oblegid nid yw ein hymdrech ni yn erbyn gwaed a chnawd, ond yn erbyn tywysogaethau, yn erbyn awdurdodau, yn erbyn bydol lywiawdwyr tywyllwch y byd hwn, yn erbyn drygau ysbrydol yn y nefolion leoedd.

13. Am hynny cymerwch atoch holl arfogaeth Duw, fel y galloch wrthsefyll yn y dydd drwg; ac wedi gorffen pob peth, sefyll.

14. Sefwch gan hynny, wedi amgylchwregysu eich lwynau รข gwirionedd, a gwisgo dwyfronneg cyfiawnder;

15. A gwisgo am eich traed esgidiau paratoad efengyl tangnefedd:

Effesiaid 6