15. Gwelwch gan hynny pa fodd y rhodioch yn ddiesgeulus, nid fel annoethion, ond fel doethion;
16. Gan brynu'r amser, oblegid y dyddiau sydd ddrwg.
17. Am hynny na fyddwch annoethion, eithr yn deall beth yw ewyllys yr Arglwydd.
18. Ac na feddwer chwi gan win, yn yr hyn y mae gormodedd; eithr llanwer chwi รข'r Ysbryd;
19. Gan lefaru wrth eich gilydd mewn salmau, a hymnau, ac odlau ysbrydol; gan ganu a phyncio yn eich calon i'r Arglwydd;
20. Gan ddiolch yn wastad i Dduw a'r Tad am bob peth, yn enw ein Harglwydd Iesu Grist;