14. Oherwydd paham y mae efe yn dywedyd, Deffro di yr hwn wyt yn cysgu, a chyfod oddi wrth y meirw; a Christ a oleua i ti.
15. Gwelwch gan hynny pa fodd y rhodioch yn ddiesgeulus, nid fel annoethion, ond fel doethion;
16. Gan brynu'r amser, oblegid y dyddiau sydd ddrwg.
17. Am hynny na fyddwch annoethion, eithr yn deall beth yw ewyllys yr Arglwydd.
18. Ac na feddwer chwi gan win, yn yr hyn y mae gormodedd; eithr llanwer chwi â'r Ysbryd;
19. Gan lefaru wrth eich gilydd mewn salmau, a hymnau, ac odlau ysbrydol; gan ganu a phyncio yn eich calon i'r Arglwydd;
20. Gan ddiolch yn wastad i Dduw a'r Tad am bob peth, yn enw ein Harglwydd Iesu Grist;
21. Gan ymddarostwng i'ch gilydd yn ofn Duw.
22. Y gwragedd, ymostyngwch i'ch gwŷr priod, megis i'r Arglwydd.
23. Oblegid y gŵr yw pen y wraig, megis ag y mae Crist yn ben i'r eglwys; ac efe yw Iachawdwr y corff.
24. Ond fel y mae'r eglwys yn ddarostyngedig i Grist, felly hefyd bydded y gwragedd i'w gwŷr priod ym mhob peth.
25. Y gwŷr, cerwch eich gwragedd, megis ag y carodd Crist yr eglwys, ac a'i rhoddes ei hun drosti;
26. Fel y sancteiddiai efe hi, a'i glanhau â'r olchfa ddwfr trwy y gair;
27. Fel y gosodai efe hi yn ogoneddus iddo ei hun, yn eglwys heb arni na brycheuyn na chrychni, na dim o'r cyfryw; ond fel y byddai yn sanctaidd ac yn ddifeius.