Effesiaid 4:22-30 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

22. Dodi ohonoch heibio, o ran yr ymarweddiad cyntaf, yr hen ddyn, yr hwn sydd lygredig yn ôl y chwantau twyllodrus;

23. Ac ymadnewyddu yn ysbryd eich meddwl;

24. A gwisgo'r dyn newydd, yr hwn yn ôl Duw a grewyd mewn cyfiawnder a gwir sancteiddrwydd.

25. Oherwydd paham, gan fwrw ymaith gelwydd, dywedwch y gwir bob un wrth ei gymydog: oblegid aelodau ydym i'n gilydd.

26. Digiwch, ac na phechwch: na fachluded yr haul ar eich digofaint chwi:

27. Ac na roddwch le i ddiafol.

28. Yr hwn a ladrataodd, na ladrated mwyach: eithr yn hytrach cymered boen, gan weithio â'i ddwylo yr hyn sydd dda; fel y byddo ganddo beth i'w gyfrannu i'r hwn y mae angen arno.

29. Na ddeued un ymadrodd llygredig allan o'ch genau chwi, ond y cyfryw un ag a fyddo da i adeiladu yn fuddiol, fel y paro ras i'r gwrandawyr.

30. Ac na thristewch Lân Ysbryd Duw, trwy'r hwn y'ch seliwyd hyd ddydd prynedigaeth.

Effesiaid 4