Effesiaid 4:14-29 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. Fel na byddom mwyach yn blantos, yn bwhwman, ac yn ein cylcharwain â phob awel dysgeidiaeth, trwy hoced dynion, trwy gyfrwystra i gynllwyn i dwyllo:

15. Eithr, gan fod yn gywir mewn cariad, cynyddu ohonom iddo ef ym mhob peth, yr hwn yw'r pen, sef Crist:

16. O'r hwn y mae'r holl gorff wedi ei gydymgynnull a'i gydgysylltu, trwy bob cymal cynhaliaeth, yn ôl y nerthol weithrediad ym mesur pob rhan, yn gwneuthur cynnydd y corff, i'w adeiladu ei hun mewn cariad.

17. Hyn gan hynny yr wyf yn ei ddywedyd, ac yn ei dystiolaethu yn yr Arglwydd, na rodioch chwi mwyach fel y mae'r Cenhedloedd eraill yn rhodio, yn oferedd eu meddwl,

18. Wedi tywyllu eu deall, wedi ymddieithrio oddi wrth fuchedd Dduw, trwy'r anwybodaeth sydd ynddynt, trwy ddallineb eu calon:

19. Y rhai wedi diddarbodi, a ymroesant i drythyllwch, i wneuthur pob aflendid yn unchwant.

20. Eithr chwychwi, nid felly y dysgasoch Grist;

21. Os bu i chwi ei glywed ef, ac os dysgwyd chwi ynddo, megis y mae'r gwirionedd yn yr Iesu:

22. Dodi ohonoch heibio, o ran yr ymarweddiad cyntaf, yr hen ddyn, yr hwn sydd lygredig yn ôl y chwantau twyllodrus;

23. Ac ymadnewyddu yn ysbryd eich meddwl;

24. A gwisgo'r dyn newydd, yr hwn yn ôl Duw a grewyd mewn cyfiawnder a gwir sancteiddrwydd.

25. Oherwydd paham, gan fwrw ymaith gelwydd, dywedwch y gwir bob un wrth ei gymydog: oblegid aelodau ydym i'n gilydd.

26. Digiwch, ac na phechwch: na fachluded yr haul ar eich digofaint chwi:

27. Ac na roddwch le i ddiafol.

28. Yr hwn a ladrataodd, na ladrated mwyach: eithr yn hytrach cymered boen, gan weithio â'i ddwylo yr hyn sydd dda; fel y byddo ganddo beth i'w gyfrannu i'r hwn y mae angen arno.

29. Na ddeued un ymadrodd llygredig allan o'ch genau chwi, ond y cyfryw un ag a fyddo da i adeiladu yn fuddiol, fel y paro ras i'r gwrandawyr.

Effesiaid 4