1. Deisyf gan hynny arnoch yr wyf fi, y carcharor yn yr Arglwydd, ar rodio ohonoch yn addas i'r alwedigaeth y'ch galwyd iddi,
2. Gyda phob gostyngeiddrwydd ac addfwynder, ynghyd â hirymaros, gan oddef eich gilydd mewn cariad;
3. Gan fod yn ddyfal i gadw undeb yr Ysbryd yng nghwlwm tangnefedd.
4. Un corff sydd, ac un Ysbryd, megis ag y'ch galwyd yn un gobaith eich galwedigaeth;
5. Un Arglwydd, un ffydd, un bedydd,
6. Un Duw a Thad oll, yr hwn sydd goruwch oll, a thrwy oll, ac ynoch oll.
7. Eithr i bob un ohonom y rhoed gras, yn ôl mesur dawn Crist.
8. Oherwydd paham y mae efe yn dywedyd, Pan ddyrchafodd i'r uchelder, efe a gaethiwodd gaethiwed, ac a roddes roddion i ddynion.
9. (Eithr efe a ddyrchafodd, beth yw ond darfod iddo hefyd ddisgyn yn gyntaf i barthau isaf y ddaear?
10. Yr hwn a ddisgynnodd, yw'r hwn hefyd a esgynnodd goruwch yr holl nefoedd, fel y cyflawnai bob peth.)
11. Ac efe a roddes rai yn apostolion, a rhai yn broffwydi, a rhai yn efengylwyr, a rhai yn fugeiliaid ac yn athrawon;
12. I berffeithio'r saint, i waith y weinidogaeth, i adeilad corff Crist:
13. Hyd onid ymgyfarfyddom oll yn undeb ffydd, a gwybodaeth Mab Duw, yn ŵr perffaith, at fesur oedran cyflawnder Crist:
14. Fel na byddom mwyach yn blantos, yn bwhwman, ac yn ein cylcharwain â phob awel dysgeidiaeth, trwy hoced dynion, trwy gyfrwystra i gynllwyn i dwyllo:
15. Eithr, gan fod yn gywir mewn cariad, cynyddu ohonom iddo ef ym mhob peth, yr hwn yw'r pen, sef Crist: