Effesiaid 3:9-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Ac i egluro i bawb beth yw cymdeithas y dirgelwch, yr hwn oedd guddiedig o ddechreuad y byd yn Nuw, yr hwn a greodd bob peth trwy Iesu Grist:

10. Fel y byddai yr awron yn hysbys i'r tywysogaethau ac i'r awdurdodau yn y nefolion leoedd, trwy'r eglwys, fawr amryw ddoethineb Duw,

11. Yn ôl yr arfaeth dragwyddol yr hon a wnaeth efe yng Nghrist Iesu ein Harglwydd ni:

12. Yn yr hwn y mae i ni hyfdra, a dyfodfa mewn hyder, trwy ei ffydd ef.

13. Oherwydd paham yr wyf yn dymuno na lwfrhaoch oblegid fy mlinderau i drosoch, yr hyn yw eich gogoniant chwi.

14. Oherwydd hyn yr wyf yn plygu fy ngliniau at Dad ein Harglwydd Iesu Grist,

15. O'r hwn yr enwir yr holl deulu yn y nefoedd ac ar y ddaear,

Effesiaid 3