Effesiaid 2:19-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

19. Weithian gan hynny nid ydych chwi mwyach yn ddieithriaid a dyfodiaid, ond yn gyd‐ddinasyddion â'r saint, ac yn deulu Duw;

20. Wedi eich goruwchadeiladu ar sail yr apostolion a'r proffwydi, ac Iesu Grist ei hun yn benconglfaen;

21. Yn yr hwn y mae'r holl adeilad wedi ei chymwys gydgysylltu, yn cynyddu'n deml sanctaidd yn yr Arglwydd:

22. Yn yr hwn y'ch cydadeiladwyd chwithau yn breswylfod i Dduw trwy'r Ysbryd.

Effesiaid 2