Diarhebion 9:1-5 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Doethineb a adeiladodd ei thŷ, hi a naddodd ei saith golofn.

2. Hi a laddodd ei hanifeiliaid; hi a gymysgodd ei gwin, ac a huliodd ei bwrdd.

3. Hi a yrrodd ei llawforynion: y mae yn llefain oddi ar fannau uchel y ddinas:

4. Pwy bynnag sydd annichellgar, tröed i mewn yma: ac wrth yr annoeth y mae hi yn dywedyd,

5. Deuwch, a bwytewch o'm bara, ac yfwch o'r gwin a gymysgais.

Diarhebion 9