Diarhebion 8:9-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Y maent hwy oll yn amlwg i'r neb a ddeallo, ac yn uniawn i'r rhai a gafodd wybodaeth.

10. Derbyniwch fy addysg, ac nid arian; a gwybodaeth o flaen aur etholedig.

11. Canys gwell yw doethineb na gemau: nid oes dim dymunol cyffelyb iddi.

12. Myfi doethineb wyf yn trigo gyda challineb: yr ydwyf yn cael allan wybodaeth cyngor.

13. Ofn yr Arglwydd yw casáu drygioni: balchder, ac uchder, a ffordd ddrygionus, a'r genau traws, sydd gas gennyf fi.

Diarhebion 8