Diarhebion 8:33-36 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

33. Gwrandewch addysg, a byddwch ddoethion; nac ymwrthodwch â hi.

34. Gwyn ei fyd y dyn a wrandawo arnaf, ac a wylio yn ddyfal beunydd wrth fy nrysau, gan warchod wrth byst fy mhyrth i.

35. Canys y neb a'm caffo i, a gaiff fywyd, ac a feddianna ewyllys da gan yr Arglwydd.

36. Ond y neb a becho yn fy erbyn, a wna gam â'i enaid ei hun: fy holl gaseion a garant angau.

Diarhebion 8