Diarhebion 7:24-27 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

24. Yn awr gan hynny, fy meibion, gwrandewch arnaf fi, ac ystyriwch eiriau fy ngenau.

25. Na thuedded dy galon at ei ffyrdd hi, na chyfeiliorna ar hyd ei llwybrau hi.

26. Canys llawer a gwympodd hi yn archolledig; ie, gwŷr grymus lawer a laddodd hi.

27. Ffordd i uffern yw ei thŷ hi, yn disgyn i ystafelloedd angau.

Diarhebion 7