Diarhebion 7:11-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. (Siaradus ac anufudd yw hi; ei thraed nid arhoant yn ei thŷ:

12. Weithiau yn y drws, weithiau yn yr heolydd, ac yn cynllwyn ym mhob congl.)

13. Hi a ymafaelodd ynddo, ac a'i cusanodd, ac ag wyneb digywilydd hi a ddywedodd wrtho,

14. Yr oedd arnaf fi aberthau hedd; heddiw y cywirais fy adduned:

15. Ac am hynny y deuthum allan i gyfarfod â thi, i chwilio am dy wyneb; a chefais afael arnat.

16. Mi a drwsiais fy ngwely â llenni, ac â cherfiadau a llieiniau yr Aifft.

17. Mi a fwgderthais fy ngwely â myrr, aloes, a sinamon.

18. Tyred, moes i ni ymlenwi o garu hyd y bore; ymhyfrydwn â chariad.

19. Canys nid yw y gŵr gartref; efe a aeth i ffordd bell:

20. Efe a gymerth godaid o arian yn ei law; efe a ddaw adref ar y dydd amodol.

21. Hi a'i troes ef â'i haml eiriau teg, ac â gweniaith ei gwefusau hi a'i cymhellodd ef.

22. Efe a'i canlynodd hi ar frys, fel yr ych yn myned i'r lladdfa, neu fel ynfyd yn myned i'r cyffion i'w gosbi:

23. Hyd oni ddryllio y saeth ei afu ef; fel yr aderyn yn prysuro i'r fagl, heb wybod ei bod yn erbyn ei einioes ef.

24. Yn awr gan hynny, fy meibion, gwrandewch arnaf fi, ac ystyriwch eiriau fy ngenau.

Diarhebion 7