Diarhebion 6:1-4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Fy mab, os mechnïaist dros dy gymydog, ac os trewaist dy law yn llaw y dieithr,

2. Ti a faglwyd â geiriau dy enau, ti a ddaliwyd â geiriau dy enau.

3. Gwna hyn yr awr hon, fy mab, a gwared dy hun, gan i ti syrthio i law dy gymydog; cerdda, ac ymostwng iddo, ac ymbil â'th gymydog.

4. Na ddyro gwsg i'th lygaid, na hun i'th amrantau.

Diarhebion 6